Pennod 89 - Gwilym Hiraethog

Pennod 89 - Gwilym Hiraethog

From Yr Hen Iaith by Mimosa Cymru

June 11, 2026 · 34 min

About this episode

The episode discusses the contributions of Gwilym Hiraethog to Welsh literature and his radical political views.

Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883). Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond eto byddai’r dyn rhyfeddol hwn yn cyfrannu mewn llawer iawn o wahanol ffyrdd at fywyd llenyddol a deallusol Cymru. Aeth yn weinidog yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, gan ddilyn Robert Everett, ac yn debyg i’r gweinidog hwnnw a ymfudodd i’r UDA, roedd gwrthwynebu caethwasiaeth ymysg yr achosion radicalaidd a goleddid gan Gwilym Hiraethog. Symudodd i Lerpwl wedyn gan fynd yn un o hoelion wyth cymuned Gymraeg y ddinas honno. Roedd yn fardd amryddawn: cyfansoddodd nifer o emynau sy’n cael eu canu hyd heddiw (er mawr siom i Jerry Hunter, gwrthododd Richard Wyn Jones ganu un!), ysgrifennodd rai o gerddi caeth mwyaf poblogaidd ei gyfnod, ac arbrofodd gyda ffurf heriol honno, yr ‘arwrgerdd’. Roedd hefyd yn un o arloeswyr y nofel Gymraeg. Fel sylfaenydd a golygydd Yr Amserau, aeth ymysg cynheiliaid pwysicaf y wasg gyfnodol Gymraeg yn y cyfnod hefyd, a chyhoeddodd lawer o ysgrifau…

People in this episode

Guest: Jerry Hunter

Topics covered

  • Welsh literature
  • 19th century writers
  • radical politics
  • poetry
  • novel writing

Keywords

  • Gwilym Hiraethog
  • Jerry Hunter
  • Welsh literature
  • 19th century
  • poetry
  • radical politics

Mentioned in this episode

Organizations: Yr Amserau, Capel Lôn Swan

Places: Dinbych, Lerpwl

More episodes of Yr Hen Iaith

Explore listener stats, chart rankings, contacts and more on the Yr Hen Iaith podcast page.