Pennod 90 - Aelwyd F’Ewythr Robert

Pennod 90 - Aelwyd F’Ewythr Robert

June 25, 2026 · 39 min

About this episode

This episode discusses Gwilym Hiraethog's 1853 book Aelwyd F’Ewythr Robert and its significance in Welsh literature and translation.

Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos. Byddai rhyw wyth trosiad Cymraeg o nofel wrthgaethiwol ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn ymddangos erbyn canol y 1850au, ond cyfrol Gwilym Hiraethog yw’r mwyaf diddorol o safbwynt llenyddoldeb, uchelgais a chreadigrwydd. Yn ogystal â chyfieithu ffuglen Saesneg i’r Gymraeg, aeth y llenor o Lansannan ati i lunio cyd-destun ffuglennol Cymreig a Chymraeg gwreiddiol er mwyn cyflwyno’r stori Americanaidd i ddarllenwyr yng Nghymru. Dyma ffuglen am ffuglen – metaffuglen o’r iawn ryw – sy’n cynnwys sylwebau miniong am y berthnynas anodd rhwng rhai darllenwyr Cymraeg a ffurf y nofel. Rhyfeddwn wrth ystyried y modd y bu i lawer o ymneilltuwyr Cymreig wrthwynebu darllen nofelau a nodi bod Aelwyd F’Ewythr Robert felly wedi helpu naddu troedle ar gyfer y ffurf lenyddol honno yng Nghymru. Ac am y tro cyntaf yn hanes y podlediad hwn, ceisiwn drafod llun yn fanwl! ** Here we continue to discuss Gwilym Hiraethog in this episode, looking in detail at a milestone book which he published in 1853, Aelwyd Fy…

More episodes of Yr Hen Iaith

Explore listener stats, chart rankings, contacts and more on the Yr Hen Iaith podcast page.