
This episode focuses on Ebenezer Thomas and his contributions to Welsh bardic culture in the 19th century.
Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r Ebenezer ifanc hogi’i grefft, dod i adnabod beirdd adnabyddus yr ardal megis Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn, ac ennill yr enw ‘Eben Fardd’. Wedyn, mae disgrifio’r modd y daeth yn fardd cenedlaethol o bwys yn dadlennu tipyn ar ddiwylliant eisteddfodol Cymru yn ystod y degawdau cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol gael ei sefydlu. Cewch flas ar fwrlwm Eisteddfod Powys yn Y Trallwng, 1824, gan gynnwys agweddau sy’n tystio i afael Prydeindod ac imperilaeth ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Craffwn wedyn ar gampwaith Eben Fardd, sef yr awdl a ddaeth yn fuddugol yn yr eisteddfod honno, ‘Dinistr Jerusalem’, un o awdlau eisteddfodol mwyaf poblogaidd a mwyaf dylanwadol y ganrif. * Eben Fardd: We concentrate on Ebenezer Thomas (1802-1863) in this episode. Discussing his early literary career provides an opportunity for us to consider the Welsh bardic culture of the first half of the nineteenth century in…
Books & works: Dinistr Jerusalem
Places: Eifionydd
Explore listener stats, chart rankings, contacts and more on the Yr Hen Iaith podcast page.